Sullivan / Edwards | Gwir Gofnod o Gyfnod | E-Book | www.sack.de
E-Book

E-Book, Welsh, Deutsch, 122 Seiten

Sullivan / Edwards Gwir Gofnod o Gyfnod

Diogelu Lleisiau Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru
1. Auflage 2024
ISBN: 978-1-916821-04-0
Verlag: Honno Press
Format: EPUB
Kopierschutz: 6 - ePub Watermark

Diogelu Lleisiau Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru

E-Book, Welsh, Deutsch, 122 Seiten

ISBN: 978-1-916821-04-0
Verlag: Honno Press
Format: EPUB
Kopierschutz: 6 - ePub Watermark



Sut brofiad yw bod yn fenyw ar flaen y gad mewn bywyd gwleidyddol? Darganfyddwch naratifau cymhellol menywod yn arwain y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy fenter arloesol Archif Menywod Cymru/Women's Archive Wales. Plymiwch i gyfweliadau didwyll gydag arloeswragedd o Gynulliad Cymru, rhagflaenydd y Senedd, y llywodraeth gyntaf yn y DG i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003. O'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o dan arweiniad Gwenda Thomas i'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o dan arweiniad Jane Davidson, archwiliwch storïau am eu cymhellion gwleidyddol, rôl-fodelau, a'r modd y gwnaethant lywio'r heriau o gydbwyso bywyd teuluol â chynrychiolaeth wleidyddol a'u cyfrifoldebau dinesig. Mae Gwir Gofnod o Gyfnod yn dystiolaeth hanfodol o esblygiad gwleidyddol Cymru. Fel gwaith o bwys arwyddocaol, mae nid yn unig yn talu teyrnged i lwyddiannau'r menywod hynod hyn, ond hefyd yn rhagweld dyfodol lle mae menywod o bob oed a chefndiroedd yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y dasg o lunio polisïau a llywodraethu yng Nghymru. 'Byddai wedi bod yn sgandal i beidio â chofnodi'r cyfweliadau cyfoethog yma gan rai arloeswragedd gwleidyddol go iawn. Heb brosiectau o'r fath byddem yn parhau i gael ein cyfyngu i weld gwleidyddiaeth drwy lens wrywaidd yn unig. Mae'r casgliad safonol a darllenadwy hwn o gyfweliadau nid yn unig yn ddifyr ond yn gyfraniad amhrisiadwy i ddeall datganoli a hanes menywod yng Nghymru hefyd.' Yr Athro Laura McAllister

Sullivan / Edwards Gwir Gofnod o Gyfnod jetzt bestellen!

Weitere Infos & Material


Roedd y galw am ddatganoli yng Nghymru wedi tyfu’n gyson gydol yr 1980au a’r 1990au ac ar 18 Medi 1997, cynhaliwyd refferendwm a gynhyrchodd bleidlais o 50.3% o blaid Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Y flwyddyn ddilynol, rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru’r sail gyfreithiol ar gyfer y fath Gynulliad, a feddai’r pwer i greu is-ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol yn unig, megis amaethyddiaeth, addysg a thai.  

Cyfarfu’r Cynulliad am y tro cyntaf ar 12 Mai 1999, ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II ar 26 Mai. O blith chwe deg aelod etholedig newydd y Cynulliad Cyntaf hwn, roedd pedair ar hugain yn fenywod, newid pwysig yn hanes y byd gwleidyddol yng Nghymru a gawsai ei ddominyddu gan ddynion cynt.

Yn adran gyntaf y llyfr hwn, clywn gan rai o’r menywod hynny a gafodd y fraint a’r cyfrifoldeb o fod y gwleidyddion benywaidd cyntaf i eistedd yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf oll, ac mewn Cynulliadau dilynol, hyd at ddathlu’r ugain mlynedd gyntaf yn 2019.

PAULINE JARMAN


‘Fy argraff gynta’ i oedd un o fod wedi cyflawni, pob un ohonon ni, o ba blaid wleidyddol bynnag. Ro’n i’n teimlo bod gyda ni gyfrifoldeb mawr fel corff mewn gwirionedd i gyflawni rhai o’r pethau ro’n ni mor daer oedd eu hangen. A dyna ’niffyg amynedd i. Roedd e mor newydd; roedd popeth mor newydd. Ro’n i wedi ’neud rhyw fath o brentisiaeth mewn llywodraeth leol felly, ro’n i wedi hen arfer â rhai o’r pethe doedd cydweithwyr eraill ddim, fel rheole dadle, rheole sefydlog, mater o drefn, y rhain i gyd. Dwi’n tybio bod y rhai oedd yn gyn-Aelodau Seneddol hefyd yn gyfarwydd â nhw. Felly, roedd yn amgylchedd estron ond dwi’n gwylio pobol, a dwi’n tueddu i gymryd fy amser, dod i nabod y diriogaeth, dod i nabod yr unigolion, dim dod i farn gynnar ar unrhyw un, eistedd yno a gwylio a gwrando. Ro’n ni i gyd yn newydd iddo fe, a gallen ni i gyd fod wedi bod yn wylwyr a gwrandawyr am amser hir iawn. O’n i yn llawn arswyd? Dwi ddim yn gwybod a o’n i’n llawn arswyd, ond yn sicr iawn ro’n i’n hynod falch o eistedd yno ym mhlith y chwe deg person cyntaf i dderbyn y cyfrifoldeb difrifol iawn o edrych ar ôl Cymru a’i materion a chyflawni i’w phobl ym mha ffordd fach bynnag y gallwn i. Dyna’r balchder ro’n i’n ei deimlo.’

JANE DAVIDSON


‘Fy argraff gynta’ i o’r Cynulliad Cenedlaethol oedd cyrraedd mewn maes parcio ceir tanddaearol yn Nhy Crughywel, adeilad a oedd wedi cael ei godi yng nghyd-destun y Gwasanaeth Iechyd ac a gafodd ei addasu’n frysiog i ddod yn Gynulliad Cenedlaethol newydd Cymru. Dwi’n cofio cyrraedd a chael lle parcio wedi ei bennu i fi ac yna dod allan a pherson yn aros amdana’ i wrth y drws. A Craig Stevenson oedd y person yna … a aeth yn ei flaen i fod yn ysgrifennydd preifat i fi, yn fy swydd gynta’ yn y Cynulliad Cenedlaethol fel Dirprwy Lywydd ac yna yn Weinidog yn y llywodraeth. Roedd Craig wedi ei baru â fi, fel aelod o’r Gwasanaeth Sifil, i’n helpu i fel Aelod Cynulliad newydd i ddeall fy ffordd o gwmpas y corff newydd. Felly wrth gwrs, roedd yn rhaid i fi fynd â ’neud popeth oedd yn rhaid i Aelode Cynulliad newydd eu ’neud. Roedd rhaid iddyn nhw neilltuo stafell i fi. Roedd rhaid iddyn nhw neilltuo cyfrifiadur i fi. Roedd yn rhaid i fi fynd i arwyddo datganiad yn nhermau dod yn Aelod Cynulliad. Roedd yn rhaid i fi ffeindio ble roedd y cantîn, ble roedd y toilede – yr holl bethe gwirioneddol bwysig mewn bywyd! Dwi’n cofio Craig yn dweud wrtho i ar y diwrnod cynta’ yna bod gyda nhw ddim syniad sut y bydde pethe, mewn gwirionedd, cwrdd â gwleidyddion go iawn, achos ro’n nhw wedi bod trwy gyfres o ymarferion fel aelode’r Gwasanaeth Sifil o sut y galle pethe fod, ond doedd gyda nhw, mwy na ninne – achos doedd llawer ohonon ni heb fod yn wleidyddion ’rioed o’r blaen – unrhyw syniad sut y bydde pethe wrth gerdded trwy’r dryse hynny.’

ELEANOR BURNHAM


‘Anrhydedd a phleser anferth, ond sioc a braw, oherwydd o’n i wedi bod yn ffocysu ar wneud ’ngorau yng Nghaer, bod yn Ustus Heddwch, edrych ar ôl y plant, ac yn y blaen ac yn y blaen. Argraffiadau cyntaf … mae’n ogla’ i’n eitha’ cryf, a’r peth cyntaf yr o’n i’n teimlo’n reit gyfoglyd ynglyn [ag o] oedd oglau [bragdy] Brain’s yn dod oddi ar y trên. Wedyn, wrth gwrs, doedd neb eisiau fy helpu i, oedolyn oeddwn i, ond o’n i ddim yn nabod y blaid, ddim yn adnabod y grwp – roedden nhw i gyd yn dod o Gaerdydd – a’r person mwyaf cyfeillgar oedd Mick Bates. Felly o’dd gen i ddim syniad, ac ar frys roedd rhaid i mi ddod o hyd i beth o’n i’n ei wneud, sut o’n i’n ei wneud, lle o’n i’n ei wneud ac efo pwy o’n i’n ei wneud. A dwi’n cofio mynd ar goll, mynd lawr stâr yn y lifft, ac yn methu dod ’nôl i fyny oherwydd roedd pawb wedi mynd adre ac o’n i ar fy mhen ei hun, ac o’n i yn y maes parcio, ac wrth gwrs doedd dim car, o’n i wedi dod ar y trên. Roedd y Siambr yn fach, a phob tro roedd un person yn pesychu, oedden ni i gyd yn cael annwyd.’

JENNY RANDERSON


‘Y pwynt difrifol, y rheswm difrifol pam ’mod i mor falch i’w ’neud e, oedd am ei fod e mor gyffrous. Sefydliad newydd. Roedd yn rhaid i ni greu’r rheole. Roedd y rhai ddaeth yn ACau cynta’ o gefndiroedd amrywiol. Dyna i chi’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a oedd wrth gwrs â Thy’r Cyffredin a’r Arglwyddi yn ei gefndir; roedd sawl AS; roedd llawer ohonon ni wedi bod yn gynghorwyr ac yn gwybod sut roedd cynghorau lleol yn gweithio; ac roedd pobol oedd ’rioed wedi ’neud hyn o’r blaen. Ac roedd pob un ohonon ni yn dod ati o bersbectif cwbwl wahanol ac yn ffurfio, fel y gwelem ni bethe, ddemocratiaeth newydd. A dwi’n credu i rai o’n harbrofion ni weithio, a buodd rhai yn fethiant. Ond y peth da oedd nad oedd unrhyw un yn sefyll yno’n dweud, “Allwch chi ddim ’neud hynna achos ’dyn ni bob amser yn ’neud hyn a hyn.” Doedd mo’r cynsail. Doedd dim rheole wedi eu gosod i lawr gan ein cyndeidie. Roedd hi i fyny i ni. A sylweddolon ni’n reit fuan bod angen llawer mwy o bwer arnon ni.’

KIRSTY WILLIAMS


‘Yn sicr do’n i ddim wedi rhagweld pa mor hollgwmpasog fydde’r swydd a sut y byddech chi ar ddyletswydd drwy’r amser. Daeth hyd yn oed pethe na fydde yn faterion o bwys i’r person ifanc wyth ar hugain oed arferol yn faterion o bwys am fod gyda chi’r swydd arbennig yma. Roedd pobol arfer rhagdybio pethe amdana’ i drwy’r amser, yn dweud bod gen i ddim digon o brofiad, nad o’n i’n ddigon da, a ro’n i jest yn teimlo bod yn rhaid i fi weithio hyd yn oed yn galetach i brofi bod rhywun ifanc – neu iau, achos dyw wyth ar hugain ddim mor ifanc â hynny – yn haeddu bod yna ac yn gallu ’neud y swydd yna. Alla’ i ddim dechre dychmygu sut fydde hi wedi bod i fynd i’r Senedd dan yr amgylchiade yna. Er bod pobol brofiadol dros ben yn y Cynulliad yn 1999, pobol â gyrfaoedd seneddol llwyddiannus iawn yng nghyd-destun San Steffan, pobol â gyrfaoedd hir a llwyddiannus iawn mewn llywodraeth leol yng Nghymru, am ei fod e’n newydd mewn sawl ffordd, roedd hi bron iawn fel petai pawb yn dechre o’r dechre. Ro’n i’n ffodus tu hwnt i fynd i mewn i’r sefydliad newydd ’na lle na alle unrhyw un roi rhywun yn ei le am eu bod nhw yno cyn hynny. Roedd e’n newydd i bawb. Doedd neb yn siwr sut bydde fe i gyd yn gweithio, doedd neb yn hollol siwr beth ddylen ni i gyd ’neud. Doedd dim o’r pwysau hanes yna arnon ni o safbwynt, “O, dyna sut ’dyn ni wedi ei ’neud e bob amser.” Ro’n ni’n creu hanes fel grwp o bobol a ro’ch chi’n sicr yn teimlo felly, achos roedd maintioli [llwyddiant] y refferendwm wedi bod mor fach. Yn sicr ro’n i’n boenus o ymwybodol bod yn rhaid i ni ’neud iddo fe weithio, bod yn rhaid iddo fe fod yn dda, roedd yn rhaid i ni brofi i bobol bod gyda ni’r hawl i fod yno, fod penderfyniad cywir wedi ei ’neud. Roedd e’n frawychus, yn gyffrous, yn ddryslyd, yn ysgubol, dim ond synnwyr enfawr o falchder o fod wedi cyrraedd yno o gwbwl.’

DELYTH EVANS


‘Dwi’n meddwl mai’r argraff gryfa’ sydd gen i amdano fe yw newydd-deb yr holl beth, bod hi’n fenter newydd, gyffrous, anghyffredin iawn, ac roedd e’n brofiad gwych i fod yn rhan o hynny. Ond, meddwl amdano fe nawr, i bobl sy wedi arfer â’r Cynulliad, roedd e’n rhywbeth cwbl newydd yn llywodraethiant Cymru, llywodraethiant Prydain, ac nid yn unig yn newid i’r bobol oedd yn rhan ohono fe, sef yr aelode a’r swyddogion a’r gweision sifil – wrth gwrs roedd hwnna’n newydd iawn iddyn nhw – ond roedd e hefyd yn hollol newydd i’r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru, a’r awdurdode lleol ac unrhyw un arall oedd yn gorfod delio â’r...



Ihre Fragen, Wünsche oder Anmerkungen
Vorname*
Nachname*
Ihre E-Mail-Adresse*
Kundennr.
Ihre Nachricht*
Lediglich mit * gekennzeichnete Felder sind Pflichtfelder.
Wenn Sie die im Kontaktformular eingegebenen Daten durch Klick auf den nachfolgenden Button übersenden, erklären Sie sich damit einverstanden, dass wir Ihr Angaben für die Beantwortung Ihrer Anfrage verwenden. Selbstverständlich werden Ihre Daten vertraulich behandelt und nicht an Dritte weitergegeben. Sie können der Verwendung Ihrer Daten jederzeit widersprechen. Das Datenhandling bei Sack Fachmedien erklären wir Ihnen in unserer Datenschutzerklärung.